Hen Destament

Testament Newydd

Luc 12:43-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;

44. yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.

45. Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi dod’, a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,

46. yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr; ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r anffyddloniaid.

47. Bydd y gwas hwnnw sy'n gwybod ewyllys ei feistr, ac eto heb ddarparu na gwneud dim yn ôl ei ewyllys, yn cael curfa dost;

48. ond bydd y gwas nad yw'n gwybod, ond sydd wedi haeddu curfa, yn cael un ysgafn. Disgwylir llawer gan y sawl a dderbyniodd lawer; a gofynnir llawer mwy yn ôl gan yr un y mae llawer wedi ei ymddiried iddo.

49. “Yr wyf fi wedi dod i fwrw tân ar y ddaear, ac O na fyddai eisoes wedi ei gynnau!

50. Y mae bedydd y mae'n rhaid fy medyddio ag ef, a chymaint yw fy nghyfyngder hyd nes y cyflawnir ef!

51. A ydych chwi'n tybio mai i roi heddwch i'r ddaear yr wyf fi wedi dod? Nage, meddaf wrthych, ond ymraniad.

52. Oherwydd o hyn allan bydd un teulu o bump wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri:

53. “ ‘Ymranna'r tad yn erbyn y maba'r mab yn erbyn y tad,y fam yn erbyn ei mercha'r ferch yn erbyn ei mam,y fam-yng-nghyfraith yn erbyn y ferch-yng-nghyfraitha'r ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith.’ ”

54. Dywedodd wrth y tyrfaoedd hefyd, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yr ydych yn dweud ar unwaith, ‘Daw yn law’, ac felly y bydd;

55. a phan welwch wynt y de yn chwythu, yr ydych yn dweud, ‘Daw yn wres’, a hynny fydd.

56. Chwi ragrithwyr, medrwch ddehongli'r olwg ar y ddaear a'r ffurfafen, ond sut na fedrwch ddehongli'r amser hwn?

57. “A pham nad ydych ohonoch eich hunain yn barnu beth sydd yn iawn?

Darllenwch bennod gyflawn Luc 12