Hen Destament

Testament Newydd

Luc 12:31-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef, a rhoir y pethau hyn yn ychwaneg i chwi.

32. Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi'r deyrnas.

33. Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa.

34. Oherwydd lle mae eich trysor, yno hefyd y bydd eich calon.

35. “Bydded eich gwisg wedi ei thorchi a'ch canhwyllau ynghynn.

36. Byddwch chwithau fel rhai yn disgwyl dychweliad eu meistr o briodas, i agor iddo cyn gynted ag y daw a churo.

37. Gwyn eu byd y gweision hynny a geir ar ddihun gan eu meistr pan ddaw; yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd ef yn torchi ei wisg, ac yn eu gosod wrth y bwrdd, ac yn dod ac yn gweini arnynt.

38. Ac os daw ef ar hanner nos neu yn yr oriau mân, a'u cael felly, gwyn eu byd.

39. A gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa bryd y byddai'r lleidr yn dod, ni fuasai wedi gadael iddo dorri i mewn i'w dŷ.

40. Chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.”

41. Meddai Pedr, “Arglwydd, ai i ni yr wyt yn adrodd y ddameg hon, ai i bawb yn ogystal?”

42. Dywedodd yr Arglwydd, “Pwy ynteu yw'r goruchwyliwr ffyddlon a chall a osodir gan ei feistr dros ei weision, i roi eu dogn bwyd iddynt yn ei bryd?

Darllenwch bennod gyflawn Luc 12