28. Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt, sydd heddiw yn y meysydd ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, gymaint mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd!
29. A chwithau, peidiwch â rhoi eich bryd ar beth i'w fwyta a beth i'w yfed, a pheidiwch â byw mewn pryder;
30. oherwydd dyna'r holl bethau y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond y mae gennych chwi Dad sy'n gwybod fod arnoch eu hangen.
31. Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef, a rhoir y pethau hyn yn ychwaneg i chwi.
32. Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi'r deyrnas.
33. Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa.
34. Oherwydd lle mae eich trysor, yno hefyd y bydd eich calon.
35. “Bydded eich gwisg wedi ei thorchi a'ch canhwyllau ynghynn.
36. Byddwch chwithau fel rhai yn disgwyl dychweliad eu meistr o briodas, i agor iddo cyn gynted ag y daw a churo.
37. Gwyn eu byd y gweision hynny a geir ar ddihun gan eu meistr pan ddaw; yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd ef yn torchi ei wisg, ac yn eu gosod wrth y bwrdd, ac yn dod ac yn gweini arnynt.
38. Ac os daw ef ar hanner nos neu yn yr oriau mân, a'u cael felly, gwyn eu byd.
39. A gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa bryd y byddai'r lleidr yn dod, ni fuasai wedi gadael iddo dorri i mewn i'w dŷ.
40. Chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.”
41. Meddai Pedr, “Arglwydd, ai i ni yr wyt yn adrodd y ddameg hon, ai i bawb yn ogystal?”
42. Dywedodd yr Arglwydd, “Pwy ynteu yw'r goruchwyliwr ffyddlon a chall a osodir gan ei feistr dros ei weision, i roi eu dogn bwyd iddynt yn ei bryd?
43. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;