Hen Destament

Testament Newydd

Luc 12:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt, sydd heddiw yn y meysydd ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, gymaint mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd!

29. A chwithau, peidiwch â rhoi eich bryd ar beth i'w fwyta a beth i'w yfed, a pheidiwch â byw mewn pryder;

30. oherwydd dyna'r holl bethau y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond y mae gennych chwi Dad sy'n gwybod fod arnoch eu hangen.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 12