Luc 12:1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Yn y cyfamser yr oedd y dyrfa wedi ymgynnull yn ei miloedd, nes eu bod yn sathru ei gilydd dan draed. Dechreuodd ef ddweud wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, “Gochelwch rhag surdoes y Phariseaid, hynny yw, eu rhagrith.