Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11:5-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yna meddai wrthynt, “Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos ac yn dweud wrtho, ‘Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi,

6. oherwydd y mae cyfaill imi wedi cyrraedd acw ar ôl taith, ac nid oes gennyf ddim i'w osod o'i flaen’;

7. a phe bai yntau yn ateb o'r tu mewn, ‘Paid â'm blino; y mae'r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti’,

8. rwy'n dweud wrthych, hyd yn oed os gwrthyd ef godi a rhoi rhywbeth iddo o achos eu cyfeillgarwch, eto oherwydd ei daerni digywilydd fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo gymaint ag sydd arno ei eisiau.

9. Ac yr wyf fi'n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.

10. Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.

11. Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i'w dad am bysgodyn, a rydd ef iddo sarff yn lle pysgodyn?

12. Neu os bydd yn gofyn am wy, a rydd ef iddo ysgorpion?

13. Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn ganddo.”

14. Yr oedd yn bwrw allan gythraul, a hwnnw'n un mud. Ac wedi i'r cythraul fynd allan, llefarodd y mudan. Synnodd y tyrfaoedd,

15. ond meddai rhai ohonynt, “Trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”

16. Yr oedd eraill am ei brofi, a gofynasant am arwydd ganddo o'r nef.

17. Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau hwy, ac meddai wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, a'r tai yn cwympo ar ben ei gilydd.

18. Ac os yw Satan yntau wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, sut y saif ei deyrnas?—gan eich bod chwi'n dweud mai trwy Beelsebwl yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid.

19. Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 11