Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11:34-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

34. Dy lygad yw cannwyll dy gorff. Pan fydd dy lygad yn iach, y mae dy gorff hefyd yn llawn goleuni; ond pan fydd yn sâl, y mae dy gorff hefyd yn llawn tywyllwch.

35. Ystyria gan hynny ai tywyllwch yw'r goleuni sydd ynot ti.

36. Felly, os yw dy gorff yn llawn goleuni, heb unrhyw ran ohono mewn tywyllwch, bydd yn llawn goleuni, fel pan fydd cannwyll yn dy oleuo â'i llewyrch.”

37. Pan orffennodd lefaru, gwahoddodd Pharisead ef i bryd o fwyd yn ei dŷ. Aeth i mewn a chymryd ei le wrth y bwrdd.

38. Pan welodd y Pharisead nad oedd wedi ymolchi yn gyntaf cyn bwyta, fe synnodd.

39. Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Yr ydych chwi'r Phariseaid yn wir yn glanhau tu allan y cwpan a'r ddysgl, ond o'ch mewn yr ydych yn llawn anrhaith a drygioni.

40. Ynfydion, onid yr hwn a wnaeth y tu allan a wnaeth y tu mewn hefyd?

41. Ond rhowch yn elusen y pethau sydd y tu mewn i'r cwpan, a dyna bopeth yn lân ichwi.

42. Ond gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys a rhyw a phob llysieuyn, ond yn diystyru cyfiawnder a chariad Duw, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, ond heb esgeuluso'r lleill.

43. Gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn caru'r prif gadeiriau yn y synagogau a'r cyfarchiadau yn y marchnadoedd.

44. Gwae chwi, oherwydd yr ydych fel beddau heb eu nodi, a phobl yn cerdded drostynt yn ddiarwybod.”

45. Atebodd un o athrawon y Gyfraith ef, “Athro, wrth ddweud hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 11