Hen Destament

Testament Newydd

Luc 10:30-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Atebodd Iesu, “Yr oedd rhyw ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron. Wedi tynnu ei ddillad oddi amdano a'i guro, aethant ymaith, a'i adael yn hanner marw.

31. Fel y digwyddodd, yr oedd offeiriad yn mynd i lawr ar hyd y ffordd honno; pan welodd ef, aeth heibio o'r ochr arall.

32. Yr un modd daeth Lefiad hefyd at y man; gwelodd ef, ac aeth heibio o'r ochr arall.

33. Ond daeth teithiwr o Samariad ato; pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho.

34. Aeth ato a rhwymo ei glwyfau, gan arllwys olew a gwin arnynt; gosododd ef ar ei anifail ei hun, a'i arwain i lety, a gofalu amdano.

35. Trannoeth tynnodd ddau ddarn arian allan a'u rhoi i'r gwesteiwr, gan ddweud, ‘Gofala amdano. Os byddi wedi gwario rhywbeth dros ben, fe dalaf fi yn ôl iti pan ddychwelaf.’

36. P'run o'r tri hyn, dybi di, fu'n gymydog i'r dyn a syrthiodd i blith lladron?”

37. Meddai ef, “Yr un a gymerodd drugaredd arno.” Ac meddai Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau yr un modd.”

38. Pan oeddent ar daith, aeth Iesu i mewn i bentref, a chroesawyd ef i'w chartref gan wraig o'r enw Martha.

39. Yr oedd ganddi hi chwaer a elwid Mair; eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd a gwrando ar ei air.

40. Ond yr oedd Martha mewn dryswch oherwydd yr holl waith gweini, a daeth ato a dweud, “Arglwydd, a wyt ti heb hidio dim fod fy chwaer wedi fy ngadael i weini ar fy mhen fy hun? Dywed wrthi, felly, am fy nghynorthwyo.”

41. Atebodd yr Arglwydd hi, “Martha, Martha, yr wyt yn pryderu ac yn trafferthu am lawer o bethau,

42. ond un peth sy'n angenrheidiol. Y mae Mair wedi dewis y rhan orau, ac nis dygir oddi arni.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 10