22. Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Ni ŵyr neb pwy yw'r Mab ond y Tad, na phwy yw'r Tad ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.”
23. Yna troes at ei ddisgyblion ac meddai wrthynt o'r neilltu, “Gwyn eu byd y llygaid sy'n gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld.
24. Oherwydd rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi dymuno gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.”
25. Dyma un o athrawon y Gyfraith yn codi i roi prawf arno, gan ddweud, “Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”
26. Meddai ef wrtho, “Beth sy'n ysgrifenedig yn y Gyfraith? Beth a ddarlleni di yno?”
27. Atebodd yntau, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth ac â'th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun.’ ”
28. Meddai ef wrtho, “Atebaist yn gywir; gwna hynny, a byw fyddi.”
29. Ond yr oedd ef am ei gyfiawnhau ei hun, ac meddai wrth Iesu, “A phwy yw fy nghymydog?”
30. Atebodd Iesu, “Yr oedd rhyw ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron. Wedi tynnu ei ddillad oddi amdano a'i guro, aethant ymaith, a'i adael yn hanner marw.