Hen Destament

Testament Newydd

Jwdas 1:15-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. i weithredu barn ar bawb, i'w condemnio i gyd am annuwioldeb eu holl weithredoedd ysgeler, ac am atgasedd holl eiriau'r pechaduriaid annuwiol hynny yn ei erbyn.”

16. Pobl yn caru grwgnach a gweld bai yw'r rhain, yn byw yn ôl eu chwantau eu hunain, yn ymffrostgar eu siarad, yn gynffonwyr er mwyn ffafr.

17. Ond dylech chwi, gyfeillion annwyl, gofio'r pethau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist.

18. Dywedasant wrthych, “Yn yr amser diwethaf fe fydd gwatwarwyr, pobl a fydd yn byw yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.”

19. Dyma'r rhai fydd yn achosi rhaniadau, pobl fydol yn amddifad o'r Ysbryd.

20. Ond rhaid i chwi, gyfeillion annwyl, eich adeiladu eich hunain ar sylfaen eich ffydd holl-sanctaidd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân;

21. cadwch eich hunain yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am i'n Harglwydd Iesu Grist yn ei drugaredd roi ichwi fywyd tragwyddol.

22. Y mae rhai y dylech dosturio wrthynt yn eu hamheuon, eraill y dylech eu hachub a'u cipio o'r tân,

23. ac y mae eraill y dylech dosturio wrthynt gydag ofn, gan gasáu hyd yn oed y dilledyn sydd â llygredd y cnawd arno.

24. Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i'ch cadw rhag syrthio, a'ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant,

25. iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Jwdas 1