Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wrth fynd ar ei daith, gwelodd Iesu ddyn dall o'i enedigaeth.

2. Gofynnodd ei ddisgyblion iddo, “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni'n ddall?”

3. Atebodd Iesu, “Ni phechodd hwn na'i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef.

4. Y mae'n rhaid i ni gyflawni gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i tra mae hi'n ddydd. Y mae'r nos yn dod, pan na all neb weithio.

5. Tra byddaf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf.”

6. Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn â'r clai,

7. ac meddai wrtho, “Dos i ymolchi ym mhwll Siloam” (enw a gyfieithir Anfonedig). Aeth y dyn yno ac ymolchi, a phan ddaeth yn ôl yr oedd yn gweld.

8. Dyma'i gymdogion, felly, a'r bobl oedd wedi arfer o'r blaen ei weld fel cardotyn, yn dweud, “Onid hwn yw'r dyn fyddai'n eistedd i gardota?”

9. Meddai rhai, “Hwn yw ef.” “Na,” meddai eraill, “ond y mae'n debyg iddo.” Ac meddai'r dyn ei hun, “Myfi yw ef.”

10. Gofynasant iddo felly, “Sut yr agorwyd dy lygaid di?”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9