Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 7:53-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

53. Ac aethant adref bob un.

54. Ond aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd.

55. Yn y bore bach daeth eto i'r deml, ac yr oedd y bobl i gyd yn dod ato. Wedi iddo eistedd a dechrau eu dysgu,

56. dyma'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn dod â gwraig ato oedd wedi ei dal mewn godineb, a'i rhoi i sefyll yn y canol.

57. “Athro,” meddent wrtho, “y mae'r wraig hon wedi ei dal yn y weithred o odinebu.

58. Gorchmynnodd Moses yn y Gyfraith i ni labyddio gwragedd o'r fath. Beth sydd gennyt ti i'w ddweud?”

59. Dweud hyn yr oeddent er mwyn rhoi prawf arno, a chael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn. Plygodd Iesu i lawr ac ysgrifennu ar y llawr â'i fys.

60. Ond gan eu bod yn dal ati i ofyn y cwestiwn iddo, ymsythodd ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag ohonoch sy'n ddibechod, gadewch i hwnnw fod yn gyntaf i daflu carreg ati.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 7