Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 7:37-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

37. Ar ddydd olaf yr ŵyl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed.

38. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo.”

39. Sôn yr oedd am yr Ysbryd yr oedd y rhai a gredodd ynddo ef yn mynd i'w dderbyn. Oherwydd nid oedd yr Ysbryd ganddynt eto, am nad oedd Iesu wedi cael ei ogoneddu eto.

40. Ar ôl ei glywed yn dweud hyn, meddai rhai o blith y dyrfa, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd.”

41. Meddai eraill, “Hwn yw'r Meseia.” Ond meddai rhai, “Does bosibl mai o Galilea y mae'r Meseia yn dod?

42. Onid yw'r Ysgrythur yn dweud mai o linach Dafydd ac o Fethlehem, y pentref lle'r oedd Dafydd yn byw, y daw'r Meseia?”

43. Felly bu ymraniad ymhlith y dyrfa o'i achos ef.

44. Yr oedd rhai ohonynt yn awyddus i'w ddal, ond ni osododd neb ddwylo arno.

45. Daeth y swyddogion yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheini iddynt, “Pam na ddaethoch ag ef yma?”

46. Atebodd y swyddogion, “Ni lefarodd neb erioed fel hyn.”

47. Yna dywedodd y Phariseaid, “A ydych chwithau hefyd wedi eich twyllo?

48. A oes unrhyw un o'r llywodraethwyr wedi credu ynddo, neu o'r Phariseaid?

49. Ond y dyrfa yma nad yw'n gwybod dim am y Gyfraith, dan felltith y maent.”

50. Yr oedd Nicodemus, y dyn oedd wedi dod ato o'r blaen, yn un ohonynt; meddai ef wrthynt,

51. “A yw ein Cyfraith ni yn barnu rhywun heb roi gwrandawiad iddo yn gyntaf, a chael gwybod beth y mae'n ei wneud?”

52. Atebasant ef, “A wyt tithau hefyd yn dod o Galilea? Chwilia'r Ysgrythurau, a chei weld nad yw proffwyd byth yn codi o Galilea.”

53. Ac aethant adref bob un.

54. Ond aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 7