Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 7:35-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

35. Meddai'r Iddewon wrth ei gilydd, “I ble mae hwn ar fynd, fel na bydd i ni gael hyd iddo? A yw ar fynd, tybed, at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid, a dysgu'r Groegiaid?

36. Beth yw ystyr y gair hwn a ddywedodd, ‘Fe chwiliwch amdanaf fi, ond ni chewch hyd i mi; lle yr wyf fi, ni allwch chwi ddod’?”

37. Ar ddydd olaf yr ŵyl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed.

38. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo.”

39. Sôn yr oedd am yr Ysbryd yr oedd y rhai a gredodd ynddo ef yn mynd i'w dderbyn. Oherwydd nid oedd yr Ysbryd ganddynt eto, am nad oedd Iesu wedi cael ei ogoneddu eto.

40. Ar ôl ei glywed yn dweud hyn, meddai rhai o blith y dyrfa, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd.”

41. Meddai eraill, “Hwn yw'r Meseia.” Ond meddai rhai, “Does bosibl mai o Galilea y mae'r Meseia yn dod?

42. Onid yw'r Ysgrythur yn dweud mai o linach Dafydd ac o Fethlehem, y pentref lle'r oedd Dafydd yn byw, y daw'r Meseia?”

43. Felly bu ymraniad ymhlith y dyrfa o'i achos ef.

44. Yr oedd rhai ohonynt yn awyddus i'w ddal, ond ni osododd neb ddwylo arno.

45. Daeth y swyddogion yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheini iddynt, “Pam na ddaethoch ag ef yma?”

46. Atebodd y swyddogion, “Ni lefarodd neb erioed fel hyn.”

47. Yna dywedodd y Phariseaid, “A ydych chwithau hefyd wedi eich twyllo?

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 7