Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 7:17-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Pwy bynnag sy'n ewyllysio gwneud ei ewyllys ef, caiff wybod a yw'r hyn yr wyf yn ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, ai ynteu siarad ohonof fy hunan yr wyf.

18. Y mae'r sawl sy'n siarad ohono'i hun yn ceisio anrhydedd iddo'i hun; ond y mae'r sawl sy'n ceisio anrhydedd i'r hwn a'i hanfonodd yn ddiffuant ac yn ddiddichell.

19. Onid yw Moses wedi rhoi'r Gyfraith i chwi? Ac eto nid oes neb ohonoch yn cadw'r Gyfraith. Pam yr ydych yn ceisio fy lladd i?”

20. Atebodd y dyrfa, “Y mae cythraul ynot. Pwy sy'n ceisio dy ladd di?”

21. Meddai Iesu wrthynt, “Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o'r herwydd.

22. Rhoddodd Moses i chwi ddefod enwaediad—er nad gyda Moses y cychwynnodd ond gyda'r patriarchiaid—ac yr ydych yn enwaedu ar blentyn ar y Saboth.

23. Os enwaedir ar blentyn ar y Saboth rhag torri Cyfraith Moses, a ydych yn ddig wrthyf fi am imi iacháu holl gorff rhywun ar y Saboth?

24. Peidiwch â barnu yn ôl yr olwg, ond yn ôl safonau barn gyfiawn.”

25. Yna dechreuodd rhai o drigolion Jerwsalem ddweud, “Onid hwn yw'r dyn y maent yn ceisio ei ladd?

26. A dyma fe'n siarad yn agored heb i neb ddweud dim yn ei erbyn. Tybed a yw'r llywodraethwyr wedi dod i wybod i sicrwydd mai hwn yw'r Meseia?

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 7