37. Bydd pob un y mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo'r sawl sy'n dod ataf fi.
38. Oherwydd yr wyf wedi disgyn o'r nef nid i wneud fy ewyllys fy hun ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i.
39. Ac ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i yw hyn: nad wyf i golli neb o'r rhai y mae ef wedi eu rhoi imi, ond fy mod i'w hatgyfodi yn y dydd olaf.
40. Oherwydd ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy'n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. A byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.”
41. Yna dechreuodd yr Iddewon rwgnach amdano oherwydd iddo ddweud, “Myfi yw'r bara a ddisgynnodd o'r nef.”
42. “Onid hwn,” meddent, “yw Iesu fab Joseff? Yr ydym ni'n adnabod ei dad a'i fam. Sut y gall ef ddweud yn awr, ‘Yr wyf wedi disgyn o'r nef’?”
43. Atebodd Iesu hwy, “Peidiwch â grwgnach ymhlith eich gilydd.
44. Ni all neb ddod ataf fi heb i'r Tad a'm hanfonodd i ei dynnu; a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.
45. Y mae'n ysgrifenedig yn y proffwydi: ‘Fe gânt oll eu dysgu gan Dduw.’ Y mae pob un a wrandawodd ar y Tad ac a ddysgodd ganddo yn dod ataf fi.
46. Nid bod neb wedi gweld y Tad, ac eithrio'r hwn sydd oddi wrth Dduw; y mae hwnnw wedi gweld y Tad.
47. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae gan y sawl sy'n credu fywyd tragwyddol.
48. Myfi yw bara'r bywyd.
49. Bwytaodd eich hynafiaid y manna yn yr anialwch, ac eto buont farw.
50. Ond dyma'r bara sy'n disgyn o'r nef, er mwyn i rywun gael bwyta ohono a pheidio â marw.
51. Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd.”