Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:23-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Ond yr oedd cychod eraill o Tiberias wedi dod yn agos i'r fan lle'r oeddent wedi bwyta'r bara ar ôl i'r Arglwydd roi diolch.

24. Felly, pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno, na'i ddisgyblion chwaith, aethant hwythau i'r cychod hyn a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu.

25. Fe'i cawsant ef yr ochr draw i'r môr, ac meddent wrtho, “Rabbi, pryd y daethost ti yma?”

26. Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, yr ydych yn fy ngheisio i, nid am ichwi weld arwyddion, ond am ichwi fwyta'r bara a chael digon.

27. Gweithiwch, nid am y bwyd sy'n darfod, ond am y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol. Mab y Dyn a rydd hwn ichwi, oherwydd arno ef y mae Duw y Tad wedi gosod sêl ei awdurdod.”

28. Yna gofynasant iddo, “Beth sydd raid inni ei wneud i gyflawni'r gweithredoedd a fyn Duw?”

29. Atebodd Iesu, “Dyma'r gwaith a fyn Duw: eich bod yn credu yn yr un y mae ef wedi ei anfon.”

30. “Os felly,” meddent wrtho, “pa arwydd a wnei di, i ni gael gweld a chredu ynot? Beth fedri di ei wneud?

31. Cafodd ein hynafiaid fanna i'w fwyta yn yr anialwch, fel y mae'n ysgrifenedig, ‘Rhoddodd iddynt fara o'r nef i'w fwyta.’ ”

32. Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid Moses sydd wedi rhoi'r bara o'r nef ichwi, ond fy Nhad sydd yn rhoi ichwi y gwir fara o'r nef.

33. Oherwydd bara Duw yw'r hwn sy'n disgyn o'r nef ac yn rhoi bywyd i'r byd.”

34. Dywedasant wrtho ef, “Syr, rho'r bara hwn inni bob amser.”

35. Meddai Iesu wrthynt, “Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6