Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:13-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Fe'u casglasant, felly, a llenwi deuddeg basged â'r tameidiau yr oedd y bwytawyr wedi eu gadael yn weddill o'r pum torth haidd.

14. Pan welodd y bobl yr arwydd hwn yr oedd Iesu wedi ei wneud, dywedasant, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd sy'n dod i'r byd.”

15. Yna synhwyrodd Iesu eu bod am ddod a'i gipio ymaith i'w wneud yn frenin, a chiliodd i'r mynydd eto ar ei ben ei hun.

16. Pan aeth hi'n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr

17. ac i mewn i gwch, a dechrau croesi'r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll, ac nid oedd Iesu wedi dod atynt hyd yn hyn.

18. Yr oedd gwynt cryf yn chwythu a'r môr yn arw.

19. Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw bum neu chwe chilomedr, dyma hwy'n gweld Iesu yn cerdded ar y môr ac yn nesu at y cwch, a daeth ofn arnynt.

20. Ond meddai ef wrthynt, “Myfi yw; peidiwch ag ofni.”

21. Yr oeddent am ei gymryd ef i'r cwch, ond ar unwaith cyrhaeddodd y cwch i'r lan yr oeddent yn hwylio ati.

22. Trannoeth, sylwodd y dyrfa oedd wedi aros ar yr ochr arall i'r môr na fu ond un cwch yno. Gwyddent nad oedd Iesu wedi mynd i'r cwch gyda'i ddisgyblion, ond eu bod wedi hwylio ymaith ar eu pennau eu hunain.

23. Ond yr oedd cychod eraill o Tiberias wedi dod yn agos i'r fan lle'r oeddent wedi bwyta'r bara ar ôl i'r Arglwydd roi diolch.

24. Felly, pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno, na'i ddisgyblion chwaith, aethant hwythau i'r cychod hyn a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu.

25. Fe'i cawsant ef yr ochr draw i'r môr, ac meddent wrtho, “Rabbi, pryd y daethost ti yma?”

26. Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, yr ydych yn fy ngheisio i, nid am ichwi weld arwyddion, ond am ichwi fwyta'r bara a chael digon.

27. Gweithiwch, nid am y bwyd sy'n darfod, ond am y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol. Mab y Dyn a rydd hwn ichwi, oherwydd arno ef y mae Duw y Tad wedi gosod sêl ei awdurdod.”

28. Yna gofynasant iddo, “Beth sydd raid inni ei wneud i gyflawni'r gweithredoedd a fyn Duw?”

29. Atebodd Iesu, “Dyma'r gwaith a fyn Duw: eich bod yn credu yn yr un y mae ef wedi ei anfon.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6