Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 5:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ac ar unwaith yr oedd y dyn wedi gwella, a chymerodd ei fatras a dechrau cerdded.Yr oedd yn Saboth y dydd hwnnw.

10. Dywedodd yr Iddewon felly wrth y dyn oedd wedi ei iacháu, “Y Saboth yw hi; nid yw'n gyfreithlon iti gario dy fatras.”

11. Atebodd yntau hwy, “Y dyn hwnnw a'm gwellodd a ddywedodd wrthyf, ‘Cymer dy fatras a cherdda.’ ”

12. Gofynasant iddo, “Pwy yw'r dyn a ddywedodd wrthyt, ‘Cymer dy fatras a cherdda’?”

13. Ond nid oedd y dyn a iachawyd yn gwybod pwy oedd ef, oherwydd yr oedd Iesu wedi troi oddi yno, am fod tyrfa yn y lle.

14. Maes o law daeth Iesu o hyd i'r dyn yn y deml, ac meddai wrtho, “Dyma ti wedi gwella. Paid â phechu mwyach, rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd iti.”

15. Aeth y dyn i ffwrdd a dywedodd wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y dyn a'i gwellodd.

16. A dyna pam y dechreuodd yr Iddewon erlid Iesu, am ei fod yn gwneud y pethau hyn ar y Saboth.

17. Ond atebodd Iesu hwy, “Y mae fy Nhad yn dal i weithio hyd y foment hon, ac yr wyf finnau'n gweithio hefyd.”

18. Parodd hyn i'r Iddewon geisio'n fwy byth ei ladd ef, oherwydd nid yn unig yr oedd yn torri'r Saboth, ond yr oedd hefyd yn galw Duw yn dad iddo ef ei hun, ac yn ei wneud ei hun felly yn gydradd â Duw.

19. Felly atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid yw'r Mab yn gallu gwneud dim ohono ei hun, dim ond yr hyn y mae'n gweld y Tad yn ei wneud. Beth bynnag y mae'r Tad yn ei wneud, hyn y mae'r Mab yntau yn ei wneud yr un modd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 5