Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 5:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Pan welodd Iesu ef yn gorwedd yno, a deall ei fod fel hyn ers amser maith, gofynnodd iddo, “A wyt ti'n dymuno cael dy wella?”

7. Atebodd y claf ef, “Syr, nid oes gennyf neb i'm gosod yn y pwll pan ddaw cynnwrf i'r dŵr, a thra byddaf fi ar fy ffordd bydd rhywun arall yn mynd i mewn o'm blaen i.”

8. Meddai Iesu wrtho, “Cod, cymer dy fatras a cherdda.”

9. Ac ar unwaith yr oedd y dyn wedi gwella, a chymerodd ei fatras a dechrau cerdded.Yr oedd yn Saboth y dydd hwnnw.

10. Dywedodd yr Iddewon felly wrth y dyn oedd wedi ei iacháu, “Y Saboth yw hi; nid yw'n gyfreithlon iti gario dy fatras.”

11. Atebodd yntau hwy, “Y dyn hwnnw a'm gwellodd a ddywedodd wrthyf, ‘Cymer dy fatras a cherdda.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 5