Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 5:28-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Peidiwch â rhyfeddu at hyn, oherwydd y mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef

29. ac yn dod allan; bydd y rhai a wnaeth ddaioni yn codi i fywyd, a'r rhai a wnaeth ddrygioni yn codi i gael eu barnu.

30. “Nid wyf fi'n gallu gwneud dim ohonof fy hun. Fel yr wyf yn clywed, felly yr wyf yn barnu, ac y mae fy marn i yn gyfiawn, oherwydd nid fy ewyllys i fy hun yr wyf yn ei cheisio, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i.

31. “Os wyf fi'n tystiolaethu amdanaf fy hun, nid yw fy nhystiolaeth yn wir.

32. Y mae un arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, ac mi wn mai gwir yw'r dystiolaeth y mae ef yn ei thystio amdanaf.

33. Yr ydych chwi wedi anfon at Ioan, ac y mae gennych dystiolaeth ganddo ef i'r gwirionedd.

34. Nid dynol yw'r dystiolaeth amdanaf, ond rwy'n dweud hyn er mwyn i chwi gael eich achub:

35. Cannwyll oedd Ioan, yn llosgi ac yn llewyrchu, a buoch chwi'n fodlon gorfoleddu dros dro yn ei oleuni ef.

36. Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy na'r eiddo Ioan, oherwydd y gweithredoedd a roes y Tad i mi i'w cyflawni, yr union weithredoedd yr wyf yn eu gwneud, y rhain sy'n tystiolaethu amdanaf fi mai'r Tad sydd wedi fy anfon.

37. A'r Tad a'm hanfonodd i, y mae ef ei hun wedi tystiolaethu amdanaf fi. Nid ydych chwi erioed wedi clywed ei lais na gweld ei wedd,

38. ac nid oes gennych mo'i air ef yn aros ynoch, oherwydd nid ydych chwi'n credu'r hwn a anfonodd ef.

39. Yr ydych yn chwilio'r Ysgrythurau oherwydd tybio yr ydych fod ichwi fywyd tragwyddol ynddynt hwy. Ond tystiolaethu amdanaf fi y mae'r rhain;

40. eto ni fynnwch ddod ataf fi i gael bywyd.

41. “Y clod yr wyf fi'n ei dderbyn, nid clod dynol mohono.

42. Ond mi wn i amdanoch chwi, nad oes gennych ddim cariad tuag at Dduw ynoch eich hunain.

43. Yr wyf fi wedi dod yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os daw rhywun arall yn ei enw ei hun, fe dderbyniwch hwnnw.

44. Sut y gallwch gredu, a chwithau yn derbyn clod gan eich gilydd a heb geisio'r clod sydd gan yr unig Dduw i'w roi?

45. Peidiwch â meddwl mai myfi fydd yn dwyn cyhuddiad yn eich erbyn gerbron y Tad. Moses yw'r un sydd yn eich cyhuddo, hwnnw yr ydych chwi wedi rhoi eich gobaith arno.

46. Pe baech yn credu Moses byddech yn fy nghredu i, oherwydd amdanaf fi yr ysgrifennodd ef.

47. Ond os nad ydych yn credu'r hyn a ysgrifennodd ef, sut yr ydych i gredu'r hyn yr wyf fi'n ei ddweud?”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 5