Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 5:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl hyn aeth Iesu i fyny i Jerwsalem i ddathlu un o wyliau'r Iddewon.

2. Y mae yn Jerwsalem, wrth Borth y Defaid, bwll a elwir Bethesda yn iaith yr Iddewon, a phum cyntedd colofnog yn arwain iddo.

3. Yn y cynteddau hyn byddai tyrfa o gleifion yn gorwedd, yn ddeillion a chloffion a phobl wedi eu parlysu.

5. Yn eu plith yr oedd dyn a fu'n wael ers deunaw mlynedd ar hugain.

6. Pan welodd Iesu ef yn gorwedd yno, a deall ei fod fel hyn ers amser maith, gofynnodd iddo, “A wyt ti'n dymuno cael dy wella?”

7. Atebodd y claf ef, “Syr, nid oes gennyf neb i'm gosod yn y pwll pan ddaw cynnwrf i'r dŵr, a thra byddaf fi ar fy ffordd bydd rhywun arall yn mynd i mewn o'm blaen i.”

8. Meddai Iesu wrtho, “Cod, cymer dy fatras a cherdda.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 5