Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 21:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Yr oedd Simon Pedr, a Thomas, a elwir Didymus, a Nathanael o Gana Galilea, a meibion Sebedeus, a dau arall o'i ddisgyblion, i gyd gyda'i gilydd.

3. A dyma Simon Pedr yn dweud wrth y lleill, “Rwy'n mynd i bysgota.” Atebasant ef, “Rydym ninnau'n dod gyda thi.” Aethant allan, a mynd i mewn i'r cwch. Ond ni ddaliasant ddim y noson honno.

4. Pan ddaeth y bore, safodd Iesu ar y lan, ond nid oedd y disgyblion yn gwybod mai Iesu ydoedd.

5. Dyma Iesu felly'n gofyn iddynt, “Does gennych ddim pysgod, fechgyn?” “Nac oes,” atebasant ef.

6. Meddai yntau wrthynt, “Bwriwch y rhwyd i'r ochr dde i'r cwch, ac fe gewch helfa.” Gwnaethant felly, ac ni allent dynnu'r rhwyd i mewn gan gymaint y pysgod oedd ynddi.

7. A dyma'r disgybl hwnnw yr oedd Iesu'n ei garu yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd yw.” Yna, pan glywodd Simon Pedr mai'r Arglwydd ydoedd, clymodd ei wisg uchaf amdano (oherwydd yr oedd wedi tynnu ei ddillad), a neidiodd i mewn i'r môr.

8. Daeth y disgyblion eraill yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd yn llawn o bysgod; nid oeddent ymhell o'r lan, dim ond rhyw gan medr.

9. Wedi iddynt lanio, gwelsant dân golosg wedi ei osod, a physgod arno, a bara.

10. Meddai Iesu wrthynt, “Dewch â rhai o'r pysgod yr ydych newydd eu dal.”

11. Dringodd Simon Pedr i'r cwch, a thynnu'r rhwyd i'r lan yn llawn o bysgod braf, cant pum deg a thri ohonynt. Ac er bod cymaint ohonynt, ni thorrodd y rhwyd.

12. “Dewch,” meddai Iesu wrthynt, “cymerwch frecwast.” Ond nid oedd neb o'r disgyblion yn beiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd.

13. Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a'i roi iddynt, a'r pysgod yr un modd.

14. Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i'w ddisgyblion ar ôl iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw.

15. Yna, wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i yn fwy na'r rhain?” Atebodd ef, “Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Portha fy ŵyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 21