Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 2:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth Iesu i fyny i Jerwsalem.

14. A chafodd yn y deml y rhai oedd yn gwerthu ychen a defaid a cholomennod, a'r cyfnewidwyr arian wrth eu byrddau.

15. Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian mân y cyfnewidwyr ar chwâl, a bwrw eu byrddau wyneb i waered.

16. Ac meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â'r rhain oddi yma. Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad i yn dŷ masnach.”

17. Cofiodd ei ddisgyblion eiriau'r Ysgrythur: “Bydd sêl dros dy dŷ di yn fy ysu.”

18. Yna heriodd yr Iddewon ef a gofyn, “Pa arwydd sydd gennyt i'w ddangos i ni, yn awdurdod dros wneud y pethau hyn?”

19. Atebodd Iesu hwy: “Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau fe'i codaf hi.”

20. Dywedodd yr Iddewon, “Chwe blynedd a deugain y bu'r deml hon yn cael ei hadeiladu, ac a wyt ti'n mynd i'w chodi mewn tridiau?”

21. Ond sôn yr oedd ef am deml ei gorff.

22. Felly, wedi iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddweud hyn, a chredasant yr Ysgrythur, a'r gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru.

23. Tra oedd yn Jerwsalem yn dathlu gŵyl y Pasg, credodd llawer yn ei enw ef wrth weld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud.

24. Ond nid oedd Iesu yn ei ymddiried ei hun iddynt, oherwydd yr oedd yn adnabod y natur ddynol.

25. Nid oedd arno angen tystiolaeth neb ynglŷn â'r ddynolryw; yr oedd ef ei hun yn gwybod beth oedd mewn dynion.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 2