Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 18:6-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Pan ddywedodd Iesu wrthynt, “Myfi yw”, ciliasant yn ôl a syrthio i'r llawr.

7. Felly gofynnodd iddynt eilwaith, “Pwy yr ydych yn ei geisio?” “Iesu o Nasareth,” meddent hwythau.

8. Atebodd Iesu, “Dywedais wrthych mai myfi yw. Os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhain fynd.”

9. Felly cyflawnwyd y gair yr oedd wedi ei lefaru: “Ni chollais yr un o'r rhai a roddaist imi.”

10. Yna tynnodd Simon Pedr y cleddyf oedd ganddo, a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd. Enw'r gwas oedd Malchus.

11. Ac meddai Iesu wrth Pedr, “Rho dy gleddyf yn ôl yn y wain. Onid wyf am yfed y cwpan y mae'r Tad wedi ei roi imi?”

12. Yna cymerodd y fintai a'i chapten, a swyddogion yr Iddewon, afael yn Iesu a'i rwymo.

13. Aethant ag ef at Annas yn gyntaf. Ef oedd tad-yng-nghyfraith Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno.

14. Caiaffas oedd y dyn a gynghorodd yr Iddewon mai mantais fyddai i un dyn farw dros y bobl.

15. Yr oedd Simon Pedr yn canlyn Iesu, a disgybl arall hefyd. Yr oedd y disgybl hwn yn adnabyddus i'r archoffeiriad, ac fe aeth i mewn gyda Iesu i gyntedd yr archoffeiriad,

16. ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad â'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth â Pedr i mewn.

17. A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, “Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?” “Nac ydwyf,” atebodd yntau.

18. A chan ei bod yn oer, yr oedd y gweision a'r swyddogion wedi gwneud tân golosg, ac yr oeddent yn sefyll yn ymdwymo wrtho. Ac yr oedd Pedr yntau yn sefyll gyda hwy yn ymdwymo.

19. Yna holodd yr archoffeiriad Iesu am ei ddisgyblion ac am ei ddysgeidiaeth.

20. Atebodd Iesu ef: “Yr wyf fi wedi siarad yn agored wrth y byd. Yr oeddwn i bob amser yn dysgu mewn synagog ac yn y deml, lle y bydd yr Iddewon i gyd yn ymgynnull; nid wyf wedi siarad dim yn y dirgel.

21. Pam yr wyt yn fy holi i? Hola'r rhai sydd wedi clywed yr hyn a leferais wrthynt. Dyma'r sawl sy'n gwybod beth a ddywedais i.”

22. Pan ddywedodd hyn, rhoddodd un o'r swyddogion oedd yn sefyll yn ei ymyl gernod i Iesu, gan ddweud, “Ai felly yr wyt yn ateb yr archoffeiriad?”

23. Atebodd Iesu, “Os dywedais rywbeth o'i le, rho dystiolaeth ynglŷn â hynny. Ond os oeddwn yn fy lle, pam yr wyt yn fy nharo?”

24. Yna anfonodd Annas ef, wedi ei rwymo, at Caiaffas, yr archoffeiriad.

25. Yr oedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ymdwymo. Meddent wrtho felly, “Tybed a wyt tithau'n un o'i ddisgyblion?” Gwadodd yntau: “Nac ydwyf,” meddai.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 18