Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 18:26-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Dyma un o weision yr archoffeiriad, perthynas i'r un y torrodd Pedr ei glust i ffwrdd, yn gofyn iddo, “Oni welais i di yn yr ardd gydag ef?”

27. Yna gwadodd Pedr eto. Ac ar hynny, canodd y ceiliog.

28. Aethant â Iesu oddi wrth Caiaffas i'r Praetoriwm. Yr oedd yn fore. Nid aeth yr Iddewon eu hunain i mewn i'r Praetoriwm, rhag iddynt gael eu halogi, er mwyn gallu bwyta gwledd y Pasg.

29. Am hynny, daeth Pilat allan atynt hwy, ac meddai, “Beth yw'r cyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?”

30. Atebasant ef, “Oni bai fod hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei drosglwyddo i ti.”

31. Yna dywedodd Pilat wrthynt, “Cymerwch chwi ef, a barnwch ef yn ôl eich Cyfraith eich hunain.” Meddai'r Iddewon wrtho, “Nid yw'n gyfreithlon i ni roi neb i farwolaeth.”

32. Felly cyflawnwyd y gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros.

33. Yna, aeth Pilat i mewn i'r Praetoriwm eto. Galwodd Iesu, ac meddai wrtho, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?”

34. Atebodd Iesu, “Ai ohonot dy hun yr wyt ti'n dweud hyn, ai ynteu eraill a ddywedodd hyn wrthyt amdanaf fi?”

35. Atebodd Pilat, “Ai Iddew wyf fi? Dy genedl dy hun a'i phrif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth wnaethost ti?”

36. Atebodd Iesu, “Nid yw fy nheyrnas i o'r byd hwn. Pe bai fy nheyrnas i o'r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i'r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas i.”

37. Yna meddai Pilat wrtho, “Yr wyt ti yn frenin, ynteu?” “Ti sy'n dweud fy mod yn frenin,” atebodd Iesu. “Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd, i dystiolaethu i'r gwirionedd. Y mae pawb sy'n perthyn i'r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i.”

38. Meddai Pilat wrtho, “Beth yw gwirionedd?”Wedi iddo ddweud hyn, daeth allan eto at yr Iddewon ac meddai wrthynt, “Nid wyf fi'n cael unrhyw achos yn ei erbyn.

39. Ond y mae'n arfer gennych i mi ryddhau un carcharor ichwi ar y Pasg. A ydych yn dymuno, felly, imi ryddhau ichwi Frenin yr Iddewon?”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 18