13. Aethant ag ef at Annas yn gyntaf. Ef oedd tad-yng-nghyfraith Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno.
14. Caiaffas oedd y dyn a gynghorodd yr Iddewon mai mantais fyddai i un dyn farw dros y bobl.
15. Yr oedd Simon Pedr yn canlyn Iesu, a disgybl arall hefyd. Yr oedd y disgybl hwn yn adnabyddus i'r archoffeiriad, ac fe aeth i mewn gyda Iesu i gyntedd yr archoffeiriad,
16. ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad â'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth â Pedr i mewn.
17. A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, “Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?” “Nac ydwyf,” atebodd yntau.
18. A chan ei bod yn oer, yr oedd y gweision a'r swyddogion wedi gwneud tân golosg, ac yr oeddent yn sefyll yn ymdwymo wrtho. Ac yr oedd Pedr yntau yn sefyll gyda hwy yn ymdwymo.