Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 18:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi iddo ddweud hyn, aeth Iesu allan gyda'i ddisgyblion a chroesi nant Cidron. Yr oedd gardd yno, ac iddi hi yr aeth ef a'i ddisgyblion.

2. Yr oedd Jwdas hefyd, ei fradychwr, yn gwybod am y lle, oherwydd yr oedd Iesu lawer gwaith wedi cyfarfod â'i ddisgyblion yno.

3. Cymerodd Jwdas felly fintai o filwyr, a swyddogion oddi wrth y prif offeiriaid a'r Phariseaid, ac aeth yno gyda llusernau a ffaglau ac arfau.

4. Gan fod Iesu'n gwybod pob peth oedd ar fin digwydd iddo, aeth allan atynt a gofyn, “Pwy yr ydych yn ei geisio?”

5. Atebasant ef, “Iesu o Nasareth.” “Myfi yw,” meddai yntau wrthynt. Ac yr oedd Jwdas, ei fradychwr, yn sefyll yno gyda hwy.

6. Pan ddywedodd Iesu wrthynt, “Myfi yw”, ciliasant yn ôl a syrthio i'r llawr.

7. Felly gofynnodd iddynt eilwaith, “Pwy yr ydych yn ei geisio?” “Iesu o Nasareth,” meddent hwythau.

8. Atebodd Iesu, “Dywedais wrthych mai myfi yw. Os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhain fynd.”

9. Felly cyflawnwyd y gair yr oedd wedi ei lefaru: “Ni chollais yr un o'r rhai a roddaist imi.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 18