Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 16:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Ond yn awr, yr wyf yn mynd at yr hwn a'm hanfonodd i, ac eto nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, ‘Ble'r wyt ti'n mynd?’

6. Ond am fy mod wedi dweud hyn wrthych, daeth tristwch i lenwi eich calon.

7. Yr wyf fi'n dweud y gwir wrthych: y mae'n fuddiol i chwi fy mod i'n mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw'r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe'i hanfonaf ef atoch.

8. A phan ddaw, fe argyhoedda ef y byd ynglŷn â phechod, a chyfiawnder, a barn;

9. ynglŷn â phechod am nad ydynt yn credu ynof fi;

10. ynglŷn â chyfiawnder oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad, ac na chewch fy ngweld ddim mwy;

11. ynglŷn â barn am fod tywysog y byd hwn wedi cael ei farnu.

12. “Y mae gennyf lawer eto i'w ddweud wrthych, ond ni allwch ddal y baich ar hyn o bryd.

13. Ond pan ddaw ef, Ysbryd y Gwirionedd, fe'ch arwain chwi yn yr holl wirionedd. Oherwydd nid ohono'i hun y bydd yn llefaru; ond yr hyn a glyw y bydd yn ei lefaru, a'r hyn sy'n dod y bydd yn ei fynegi i chwi.

14. Bydd ef yn fy ngogoneddu i, oherwydd bydd yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi.

15. Y mae pob peth sydd gan y Tad yn eiddo i mi. Dyna pam y dywedais ei fod yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi.

16. “Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i ddim mwy, ac ymhen ychydig wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 16