Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 16:19-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Sylweddolodd Iesu eu bod yn awyddus i'w holi, ac meddai wrthynt, “Ai dyma'r hyn yr ydych yn ei drafod gyda'ch gilydd, fy mod i wedi dweud, ‘Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld’?

20. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y byddwch chwi'n wylo ac yn galaru, a bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi'n drist, ond fe droir eich tristwch yn llawenydd.

21. Y mae gwraig mewn poen wrth esgor, gan fod ei hamser wedi dod. Ond pan fydd y baban wedi ei eni, nid yw hi'n cofio'r gwewyr ddim mwy gan gymaint ei llawenydd fod plentyn wedi ei eni i'r byd.

22. Felly chwithau, yr ydych yn awr mewn tristwch. Ond fe'ch gwelaf chwi eto, ac fe lawenha eich calon, ac ni chaiff neb ddwyn eich llawenydd oddi arnoch.

23. Y dydd hwnnw ni byddwch yn holi dim arnaf. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi.

24. Hyd yn hyn nid ydych wedi gofyn dim yn fy enw i. Gofynnwch, ac fe gewch, ac felly bydd eich llawenydd yn gyflawn.

25. “Yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych ar ddamhegion. Y mae amser yn dod pan na fyddaf yn siarad wrthych ar ddamhegion ddim mwy, ond yn llefaru wrthych yn gwbl eglur am y Tad.

26. Yn y dydd hwnnw, byddwch yn gofyn yn fy enw i. Nid wyf yn dweud wrthych y byddaf fi'n gweddïo ar y Tad drosoch chwi,

27. oherwydd y mae'r Tad ei hun yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i a chredu fy mod i wedi dod oddi wrth Dduw.

28. Deuthum oddi wrth y Tad, ac yr wyf wedi dod i'r byd; bellach yr wyf yn gadael y byd eto ac yn mynd at y Tad.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 16