Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 14:8-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Meddai Philip wrtho, “Arglwydd, dangos i ni y Tad, a bydd hynny'n ddigon inni.”

9. Atebodd Iesu ef, “A wyf wedi bod gyda chwi cyhyd heb i ti fy adnabod, Philip? Y mae'r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Sut y medri di ddweud, ‘Dangos i ni y Tad’?

10. Onid wyt yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi? Y geiriau yr wyf fi'n eu dweud wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; y Tad sy'n aros ynof fi sydd yn gwneud ei weithredoedd ei hun.

11. Credwch fi pan ddywedaf fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi; neu ynteu credwch ar sail y gweithredoedd eu hunain.

12. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi hefyd yn gwneud y gweithredoedd yr wyf fi'n eu gwneud; yn wir, bydd yn gwneud rhai mwy na'r rheini, oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad.

13. Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe'i gwnaf, er mwyn i'r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab.

14. Os gofynnwch unrhyw beth i mi yn fy enw i, fe'i gwnaf.

15. “Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i.

16. Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth,

17. Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 14