Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 14:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau.

2. Yn nhÅ· fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi?

3. Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a'ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle'r wyf fi.

4. Fe wyddoch y ffordd i'r lle'r wyf fi'n mynd.”

5. Meddai Thomas wrtho, “Arglwydd, ni wyddom i ble'r wyt yn mynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?”

6. Dywedodd Iesu wrtho, “Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.

7. Os ydych wedi f'adnabod i, byddwch yn adnabod y Tad hefyd. Yn wir, yr ydych bellach yn ei adnabod ef ac wedi ei weld ef.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 14