Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 13:31-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. Ar ôl i Jwdas fynd allan dywedodd Iesu, “Yn awr y mae Mab y Dyn wedi ei ogoneddu, a Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef.

32. Ac os yw Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef, bydd Duw yntau yn ei ogoneddu ef ynddo'i hun, ac yn ei ogoneddu ar unwaith.

33. Fy mhlant, am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi; fe chwiliwch amdanaf, a'r hyn a ddywedais wrth yr Iddewon, yr wyf yn awr yn ei ddweud wrthych chwi hefyd, ‘Ni allwch chwi ddod lle'r wyf fi'n mynd.’

34. Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd.

35. Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.”

36. Meddai Simon Pedr wrtho, “Arglwydd, i ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd Iesu ef, “Lle'r wyf fi'n mynd, ni elli di ar hyn o bryd fy nghanlyn, ond fe fyddi'n fy nghanlyn maes o law.”

37. “Arglwydd,” gofynnodd Pedr iddo, “pam na allaf dy ganlyn yn awr? Fe roddaf fy einioes drosot.”

38. Atebodd Iesu, “A roddi dy einioes drosof? Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni chân y ceiliog cyn iti fy ngwadu i dair gwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 13