Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 11:45-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

45. Felly daeth llawer o'r Iddewon, y rhai oedd wedi dod at Mair a gweld beth yr oedd Iesu wedi ei wneud, i gredu ynddo.

46. Ond aeth rhai ohonynt i ffwrdd at y Phariseaid a dweud wrthynt beth yr oedd Iesu wedi ei wneud.

47. Am hynny galwodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid gyfarfod o'r Sanhedrin, a dywedasant: “Beth yr ydym am ei wneud? Y mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion.

48. Os gadawn iddo barhau fel hyn, bydd pawb yn credu ynddo, ac fe ddaw'r Rhufeiniaid a chymryd oddi wrthym ein teml a'n cenedl hefyd.”

49. Ond dyma un ohonynt, Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud wrthynt: “Nid ydych chwi'n deall dim.

50. Nid ydych yn sylweddoli mai mantais i chwi fydd i un dyn farw dros y bobl, yn hytrach na bod y genedl gyfan yn cael ei difodi.”

51. Nid ohono'i hun y dywedodd hyn, ond proffwydo yr oedd, ac yntau'n archoffeiriad y flwyddyn honno, fod Iesu'n mynd i farw dros y genedl,

52. ac nid dros y genedl yn unig ond hefyd er mwyn casglu plant Duw oedd ar wasgar, a'u gwneud yn un.

53. O'r diwrnod hwnnw, felly, gwnaethant gynllwyn i'w ladd ef.

54. Am hynny, peidiodd Iesu mwyach â mynd oddi amgylch yn agored ymhlith yr Iddewon. Aeth i ffwrdd oddi yno i'r wlad sydd yn ymyl yr anialwch, i dref a elwir Effraim, ac arhosodd yno gyda'i ddisgyblion.

55. Yn awr yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth llawer i fyny i Jerwsalem o'r wlad cyn y Pasg, ar gyfer defod eu puredigaeth.

56. Ac yr oeddent yn chwilio am Iesu, ac yn sefyll yn y deml a dweud wrth ei gilydd, “Beth dybiwch chwi? Nad yw ef ddim yn dod i'r ŵyl?”

57. Ac er mwyn iddynt ei ddal, yr oedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi rhoi gorchmynion, os oedd rhywun yn gwybod lle'r oedd ef, ei fod i'w hysbysu hwy.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 11