Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 11:10-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ond os yw rhywun yn cerdded yn y nos, y mae'n baglu, am nad oes golau ganddo.”

11. Ar ôl dweud hyn meddai wrthynt, “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i'w ddeffro.”

12. Dywedodd y disgyblion wrtho, “Arglwydd, os yw'n huno fe gaiff ei wella.”

13. Ond at ei farwolaeth ef yr oedd Iesu wedi cyfeirio, a hwythau'n meddwl mai siarad am hun cwsg yr oedd.

14. Felly dywedodd Iesu wrthynt yn blaen, “Y mae Lasarus wedi marw.

15. Ac er eich mwyn chwi yr wyf yn falch nad oeddwn yno, er mwyn ichwi gredu. Ond gadewch inni fynd ato.”

16. Ac meddai Thomas, a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, “Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag ef.”

17. Pan gyrhaeddodd yno, cafodd Iesu fod Lasarus eisoes yn ei fedd ers pedwar diwrnod.

18. Yr oedd Bethania yn ymyl Jerwsalem, ryw dri chilomedr oddi yno.

19. Ac yr oedd llawer o'r Iddewon wedi dod at Martha a Mair i'w cysuro ar golli eu brawd.

20. Pan glywodd Martha fod Iesu yn dod, aeth i'w gyfarfod; ond eisteddodd Mair yn y tŷ.

21. Dywedodd Martha wrth Iesu, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw.

22. A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo.”

23. Dywedodd Iesu wrthi, “Fe atgyfoda dy frawd.”

24. “Mi wn,” meddai Martha wrtho, “y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.”

25. Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw;

26. a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti'n credu hyn?”

27. “Ydwyf, Arglwydd,” atebodd hithau, “yr wyf fi'n credu mai tydi yw'r Meseia, Mab Duw, yr Un sy'n dod i'r byd.”

28. Wedi iddi ddweud hyn, aeth ymaith a galw ei chwaer Mair a dweud wrthi o'r neilltu, “Y mae'r Athro wedi cyrraedd, ac y mae am dy weld.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 11