Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, lleidr ac ysbeiliwr yw'r sawl nad yw'n mynd i mewn trwy'r drws i gorlan y defaid, ond sy'n dringo i mewn rywle arall.

2. Yr un sy'n mynd i mewn trwy'r drws yw bugail y defaid.

3. Y mae ceidwad y drws yn agor i hwn, ac y mae'r defaid yn clywed ei lais, ac yntau'n galw ei ddefaid ei hun wrth eu henwau ac yn eu harwain hwy allan.

4. Pan fydd wedi dod â'i ddefaid ei hun i gyd allan, bydd yn cerdded ar y blaen, a'r defaid yn ei ganlyn oherwydd eu bod yn adnabod ei lais ef.

5. Ni chanlynant neb dieithr byth, ond ffoi oddi wrtho, oherwydd nid ydynt yn adnabod llais dieithriaid.”

6. Dywedodd Iesu hyn wrthynt ar ddameg, ond nid oeddent hwy'n deall ystyr yr hyn yr oedd yn ei lefaru wrthynt.

7. Felly dywedodd Iesu eto, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, myfi yw drws y defaid.

8. Lladron ac ysbeilwyr oedd pawb a ddaeth o'm blaen i; ond ni wrandawodd y defaid arnynt hwy.

9. Myfi yw'r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw'n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 10