3. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod.
4. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd.
5. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef.
6. Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan.
7. Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo.
8. Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni.
9. Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd.
10. Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono.