15. Y mae Ioan yn tystio amdano ac yn cyhoeddi: “Hwn oedd yr un y dywedais amdano, ‘Y mae'r hwn sy'n dod ar f'ôl i wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’ ”
16. O'i gyflawnder ef yr ydym ni oll wedi derbyn gras ar ben gras.
17. Oherwydd trwy Moses y rhoddwyd y Gyfraith, ond gras a gwirionedd, trwy Iesu Grist y daethant.
18. Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; yr unig Un, ac yntau'n Dduw, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a'i gwnaeth yn hysbys.