Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 1:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair.

2. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw.

3. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod.

4. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd.

5. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef.

6. Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 1