Hen Destament

Testament Newydd

Iago 1:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. oherwydd nid yw dicter dynol yn hyrwyddo cyfiawnder Duw.

21. Ymaith gan hynny â phob aflendid, ac ymaith â'r drygioni sydd ar gynnydd, a derbyniwch yn wylaidd y gair hwnnw a blannwyd ynoch, ac sy'n abl i achub eich eneidiau.

22. Byddwch yn weithredwyr y gair, nid yn wrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.

23. Oherwydd os yw rhywun yn wrandawr y gair, ac nid yn weithredwr, y mae'n debyg i un yn gweld mewn drych yr wyneb a gafodd;

24. fe'i gwelodd ei hun, ac yna, wedi iddo fynd i ffwrdd, anghofiodd ar unwaith pa fath un ydoedd.

25. Ond am y sawl a roes sylw dyfal i berffaith gyfraith rhyddid ac a ddaliodd ati, a dod yn weithredwr ei gofynion, ac nid yn wrandawr anghofus, bydd hwnnw yn ddedwydd yn ei weithredoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Iago 1