6. Yn ôl y trefniadau hyn, y mae'r offeiriaid yn mynd i mewn yn barhaus i'r babell gyntaf i gyflawni'r gwasanaethau;
7. ond yr archoffeiriad yn unig sy'n mynd i'r ail, unwaith yn y flwyddyn, ac nid yw yntau'n mynd heb waed i'w offrymu drosto'i hun a thros bechodau anfwriadol y bobl.
8. Yn hyn, y mae'r Ysbryd Glân yn dangos nad oedd y ffordd i'r cysegr wedi ei hamlygu cyhyd ag yr oedd y tabernacl cyntaf yn sefyll.
9. Y mae hyn oll yn arwyddlun ar gyfer yr amser presennol. Yn ôl y drefn hon offrymir rhoddion ac aberthau na allant berffeithio'r addolwr yn ei gydwybod,
10. oherwydd y maent yn ymwneud yn unig â bwydydd a diodydd ac amrywiol olchiadau, ordinhadau allanol sydd wedi eu gosod hyd amser y drefn newydd.
11. Ond yn awr daeth Crist, archoffeiriad y pethau da sydd wedi dod. Trwy dabernacl rhagorach a pherffeithiach, nid o waith llaw (hynny yw, nid o'r greadigaeth hon),
12. ac nid â gwaed geifr a lloi, ond â'i waed ei hun, yr aeth ef i mewn un waith am byth i'r cysegr, a sicrhau prynedigaeth dragwyddol.
13. Oblegid os yw gwaed geifr a theirw, a lludw anner, o'i daenu ar yr halogedig, yn sancteiddio hyd at buredigaeth allanol,
14. pa faint mwy y bydd gwaed Crist, yr hwn a'i hoffrymodd ei hun trwy'r Ysbryd tragwyddol yn ddi-nam i Dduw, yn puro ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw.
15. Am hynny, y mae ef yn gyfryngwr cyfamod newydd, er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw gael derbyn yr etifeddiaeth dragwyddol a addawyd, gan fod marwolaeth wedi digwydd er sicrhau rhyddhad oddi wrth y troseddau a gyflawnwyd dan y cyfamod cyntaf.
16. Oherwydd lle y mae ewyllys, y mae'n rhaid profi marwolaeth y sawl a'i gwnaeth;
17. ar farwolaeth dyn y bydd ewyllys yn dod yn effeithiol; nid yw byth mewn grym tra bydd y sawl a'i gwnaeth yn fyw.
18. Felly, ni sefydlwyd y cyfamod cyntaf, hyd yn oed, heb waed.
19. Oblegid ar ôl i Moses gyhoeddi i'r holl bobl bob gorchymyn yn ôl y Gyfraith, cymerodd waed lloi a geifr, gyda dŵr a gwlân ysgarlad ac isop, a'i daenellu ar y llyfr ei hun ac ar yr holl bobl hefyd,