Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 9:11-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Ond yn awr daeth Crist, archoffeiriad y pethau da sydd wedi dod. Trwy dabernacl rhagorach a pherffeithiach, nid o waith llaw (hynny yw, nid o'r greadigaeth hon),

12. ac nid â gwaed geifr a lloi, ond â'i waed ei hun, yr aeth ef i mewn un waith am byth i'r cysegr, a sicrhau prynedigaeth dragwyddol.

13. Oblegid os yw gwaed geifr a theirw, a lludw anner, o'i daenu ar yr halogedig, yn sancteiddio hyd at buredigaeth allanol,

14. pa faint mwy y bydd gwaed Crist, yr hwn a'i hoffrymodd ei hun trwy'r Ysbryd tragwyddol yn ddi-nam i Dduw, yn puro ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw.

15. Am hynny, y mae ef yn gyfryngwr cyfamod newydd, er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw gael derbyn yr etifeddiaeth dragwyddol a addawyd, gan fod marwolaeth wedi digwydd er sicrhau rhyddhad oddi wrth y troseddau a gyflawnwyd dan y cyfamod cyntaf.

16. Oherwydd lle y mae ewyllys, y mae'n rhaid profi marwolaeth y sawl a'i gwnaeth;

17. ar farwolaeth dyn y bydd ewyllys yn dod yn effeithiol; nid yw byth mewn grym tra bydd y sawl a'i gwnaeth yn fyw.

18. Felly, ni sefydlwyd y cyfamod cyntaf, hyd yn oed, heb waed.

19. Oblegid ar ôl i Moses gyhoeddi i'r holl bobl bob gorchymyn yn ôl y Gyfraith, cymerodd waed lloi a geifr, gyda dŵr a gwlân ysgarlad ac isop, a'i daenellu ar y llyfr ei hun ac ar yr holl bobl hefyd,

20. gan ddweud, “Hwn yw gwaed y cyfamod a ordeiniodd Duw ar eich cyfer.”

21. Ac yn yr un modd taenellodd waed ar y tabernacl hefyd, ac ar holl lestri'r gwasanaeth.

22. Yn wir, â gwaed y mae pob peth bron, yn ôl y Gyfraith, yn cael ei buro, a heb dywallt gwaed nid oes maddeuant.

23. Gan hynny, yr oedd yn rhaid i gysgodau o'r pethau nefol gael eu puro â'r pethau hyn, ond y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn.

24. Oherwydd nid i gysegr o waith llaw, rhyw lun o'r cysegr gwirioneddol, yr aeth Crist i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw drosom ni.

25. Ac nid i'w offrymu ei hun yn fynych y mae'n mynd, fel y bydd yr archoffeiriad yn mynd i mewn i'r cysegr bob blwyddyn â gwaed arall na'r eiddo ei hun;

26. petai felly, buasai wedi gorfod dioddef yn fynych er seiliad y byd. Ond yn awr, un waith am byth, ar ddiwedd yr oesoedd, y mae ef wedi ymddangos er mwyn dileu pechod drwy ei aberthu ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 9