9. ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid,y dydd y gafaelais yn eu llawi'w harwain allan o wlad yr Aifft,oherwydd nid arosasant hwy yn fy nghyfamod i.A minnau, fe'u diystyrais hwy, medd yr Arglwydd.
10. Dyma'r cyfamod a wnaf â thÅ· Israelar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd:rhof fy nghyfreithiau yn eu meddwl,ac ysgrifennaf hwy ar eu calon.A byddaf yn Dduw iddynt,a hwythau'n bobl i mi.
11. Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gyd-ddinesydda phob un ei gilydd, gan ddweud, ‘Adnebydd yr Arglwydd.’Oblegid byddant i gyd yn f'adnabod,o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt.
12. Oherwydd byddaf yn drugarog wrth eu camweddau,ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.”
13. Wrth ddweud “cyfamod newydd”, y mae wedi dyfarnu'r cyntaf yn hen; ac y mae'r hyn sy'n mynd yn hen ac oedrannus ar fin diflannu.