Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 8:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ond, fel y mae, cafodd Iesu weinidogaeth ragorach, gan ei fod yn gyfryngwr cyfamod cymaint gwell—cyfamod, yn wir, sydd wedi ei sefydlu ar addewidion gwell.

7. Oherwydd pe bai'r cyfamod cyntaf hwnnw yn ddi-fai, ni byddai lle i ail gyfamod.

8. Oblegid y mae Duw'n eu beio pan yw'n dweud:“Y mae'r dyddiau'n dod, medd yr Arglwydd,y gwnaf gyfamod newyddâ thŷ Israel ac â thŷ Jwda;

9. ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid,y dydd y gafaelais yn eu llawi'w harwain allan o wlad yr Aifft,oherwydd nid arosasant hwy yn fy nghyfamod i.A minnau, fe'u diystyrais hwy, medd yr Arglwydd.

10. Dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israelar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd:rhof fy nghyfreithiau yn eu meddwl,ac ysgrifennaf hwy ar eu calon.A byddaf yn Dduw iddynt,a hwythau'n bobl i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 8