Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 8:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Prif bwynt yr hyn rwy'n ei ddweud yw mai dyma'r math o archoffeiriad sydd gennym, un sydd wedi eistedd ar ddeheulaw gorsedd y Mawrhydi yn y nefoedd,

2. yn weinidog y cysegr, sef y gwir dabernacl a osododd yr Arglwydd, nid pobl feidrol.

3. Oherwydd y mae pob archoffeiriad yn cael ei benodi i offrymu rhoddion ac aberthau, ac felly, rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i'w offrymu.

4. Yn awr, pe byddai ar y ddaear, ni byddai'n offeiriad o gwbl, gan fod yma eisoes rai sy'n offrymu rhoddion yn ôl y Gyfraith.

5. Y mae'r rhain yn gweini mewn cysegr sy'n llun a chysgod o'r un nefol, yn ôl y gorchymyn a gafodd Moses pan oedd ar fin codi'r tabernacl. “Gofala,” meddai Duw, “y byddi'n gwneud pob peth yn ôl y patrwm a ddangoswyd iti ar y mynydd.”

6. Ond, fel y mae, cafodd Iesu weinidogaeth ragorach, gan ei fod yn gyfryngwr cyfamod cymaint gwell—cyfamod, yn wir, sydd wedi ei sefydlu ar addewidion gwell.

7. Oherwydd pe bai'r cyfamod cyntaf hwnnw yn ddi-fai, ni byddai lle i ail gyfamod.

8. Oblegid y mae Duw'n eu beio pan yw'n dweud:“Y mae'r dyddiau'n dod, medd yr Arglwydd,y gwnaf gyfamod newyddâ thŷ Israel ac â thŷ Jwda;

9. ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid,y dydd y gafaelais yn eu llawi'w harwain allan o wlad yr Aifft,oherwydd nid arosasant hwy yn fy nghyfamod i.A minnau, fe'u diystyrais hwy, medd yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 8