4. Ystyriwch pa mor fawr oedd y gŵr hwn y rhoddwyd iddo ddegwm o'r anrhaith gan Abraham y patriarch.
5. Yn awr, y mae'r rheini o blith disgynyddion Lefi sy'n cymryd swydd offeiriad dan orchymyn yn ôl y Gyfraith i gymryd degwm gan y bobl, hynny yw, eu cyd-genedl, er mai disgynyddion Abraham ydynt.
6. Ond y mae hwn, er nad yw o'u llinach hwy, wedi cymryd degwm gan Abraham ac wedi bendithio'r hwn y mae'r addewidion ganddo.
7. A heb ddadl o gwbl, y lleiaf sy'n cael ei fendithio gan y mwyaf.
8. Yn y naill achos, rhai meidrol sydd yn derbyn degwm, ond yn y llall, un y tystiolaethir amdano ei fod yn aros yn fyw.
9. Gellir dweud hyd yn oed fod Lefi, derbyniwr y degwm, yntau wedi talu degwm drwy Abraham,
10. oblegid yr oedd ef eisoes yn llwynau ei gyndad pan gyfarfu Melchisedec â hwnnw.
11. Os oedd perffeithrwydd i'w gael, felly, trwy'r offeiriadaeth Lefiticaidd—oblegid ar sail honno y rhoddwyd y Gyfraith i'r bobl—pa angen pellach oedd i sôn am offeiriad arall yn codi, yn ôl urdd Melchisedec ac nid yn ôl urdd Aaron?
12. Oblegid os yw'r offeiriadaeth yn cael ei newid, rhaid bod y Gyfraith hefyd yn cael ei newid.
13. Oherwydd y mae'r un y dywedir y pethau hyn amdano yn perthyn i lwyth arall, nad oes yr un aelod ohono wedi gweini wrth yr allor;
14. ac y mae'n gwbl hysbys fod ein Harglwydd ni yn hanu o lwyth Jwda, llwyth na ddywedodd Moses ddim am offeiriad mewn perthynas ag ef.
15. Y mae'r ddadl yn eglurach fyth os ar ddull Melchisedec y bydd yr offeiriad arall yn codi,
16. a'i offeiriadaeth yn dibynnu, nid ar gyfraith sydd â'i gorchymyn yn ymwneud â'r cnawd ond ar nerth bywyd annistryw.
17. Oherwydd tystir amdano:“Yr wyt ti'n offeiriad am bythyn ôl urdd Melchisedec.”