9. Er ein bod yn siarad fel hyn, yr ydym yn argyhoeddedig, gyfeillion annwyl, fod pethau gwell yn eich aros chwi, pethau sy'n perthyn i iachawdwriaeth.
10. Oherwydd nid yw Duw yn anghyfiawn; nid anghofia eich gwaith, a'r cariad tuag at ei enw yr ydych wedi ei amlygu drwy weini i'r saint, ac yn dal ati i weini.
11. Ond ein dyhead yw i bob un ohonoch ddangos yr un eiddgarwch ynglŷn â sicrwydd eich gobaith hyd y diwedd.
12. Yr ydym am ichwi beidio â bod yn ddiog, ond yn efelychwyr y rhai sydd drwy ffydd ac amynedd yn etifeddu'r addewidion.
13. Pan roddodd Duw, felly, addewid i Abraham, gan nad oedd ganddo neb mwy i dyngu wrtho, fe dyngodd wrtho'i hun
14. gan ddweud: “Yn wir, bendithiaf di, ac yn ddiau, amlhaf di.”
15. Ac felly, wedi disgwyl yn amyneddgar, fe gafodd yr hyn a addawyd.
16. Oherwydd wrth un mwy y bydd pobl yn tyngu; ac y mae llw yn rhoi gwarant sydd yn derfyn ar bob dadl rhyngddynt.
17. Felly, pan ewyllysiodd Duw brofi'n llwyrach i etifeddion yr addewid mor ddigyfnewid yw ei fwriad, fe roddodd warant drwy lw,
18. er mwyn i ddau beth digyfnewid, dau beth yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt, beri i ni sydd wedi ffoi am noddfa dderbyn symbyliad cryf i ymaflyd yn y gobaith a osodwyd o'n blaen.
19. Y mae'r gobaith hwn gennym fel angor i'n bywyd, un diogel a chadarn, ac un sy'n mynd trwodd i'r tu mewn i'r llen,
20. lle y mae Iesu wedi mynd, yn rhagredegydd ar ein rhan, wedi ei wneud yn archoffeiriad am byth, yn ôl urdd Melchisedec.