Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 5:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.

11. Am Melchisedec y mae gennym lawer i'w ddweud sydd yn anodd ei egluro, oherwydd eich bod chwi wedi mynd yn araf i ddeall.

12. Yn wir, er y dylech erbyn hyn fod yn athrawon, y mae arnoch angen rhywun i ailddysgu ichwi elfennau cyntaf oraclau Duw; angen llaeth sydd arnoch chwi, ac nid bwyd cryf.

13. Nid oes gan y sawl sy'n byw ar laeth ddim profiad o egwyddor cyfiawnder, am mai baban ydyw.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 5