Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 4:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gochelwn, felly, rhag i neb ohonoch fod wedi eich cau allan megis, a'r addewid yn aros y cawn ddod i mewn i'w orffwysfa ef.

2. Oherwydd fe gyhoeddwyd y newyddion da, yn wir, i ni fel iddynt hwythau, ond ni bu'r gair a glywsant o unrhyw fudd iddynt hwy, am nad oeddent wedi eu huno mewn ffydd â'r sawl oedd wedi gwrando ar y gair.

3. Oblegid nyni, y rhai sydd wedi credu, sydd yn mynd i mewn i'r orffwysfa, yn unol â'r hyn a ddywedodd:“Felly tyngais yn fy nig,‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ”Ac eto yr oedd ei waith wedi ei orffen er seiliad y byd.

4. Oherwydd y mae gair yn rhywle am y seithfed dydd fel hyn: “A gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.”

5. Felly hefyd yma: “Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.”

6. Felly, gan ei bod yn sicr y bydd rhai yn cael dod i mewn iddi, a chan fod y rhai y cyhoeddwyd y newyddion da iddynt gynt heb ddod i mewn oherwydd anufudd-dod,

7. y mae ef drachefn yn pennu dydd neilltuol, sef “Heddiw”, gan lefaru trwy Ddafydd ar ôl cymaint o amser, fel y dyfynnwyd o'r blaen:“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,peidiwch â chaledu'ch calonnau.”

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 4