Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Iesu'n Uwch na Moses

1. Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu,

2. a fu'n ffyddlon i'r hwn a'i penododd, fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw.

3. Oherwydd y mae Iesu wedi ei gyfrif yn deilwng o ogoniant mwy na Moses, yn gymaint â bod adeiladydd tŷ yn derbyn mwy o anrhydedd na'r tŷ.

4. Y mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth.

5. Bu Moses yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw fel gwas, i ddwyn tystiolaeth i'r pethau yr oedd Duw yn mynd i'w llefaru;

6. ond y mae Crist yn ffyddlon fel Mab sydd â rheolaeth ar dŷ Dduw. A ni yw ei dŷ ef, os daliwn ein gafael yn y gobaith yr ydym yn hyderu ac yn ymffrostio ynddo.

Gorffwysfa i Bobl Dduw

7. Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Glân yn dweud:“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,

8. peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel,yn nydd y profi yn yr anialwch,

9. lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi,ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd.

10. Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno,a dweud, ‘Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau,ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.’

11. Felly tyngais yn fy nig,‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ”

12. Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw.

13. Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n “heddiw”, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod.

14. Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion â Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf.

15. Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud:“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel.”

16. Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses?

17. Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch?

18. Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd?